1 Timotheus 6
6
1Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef. 2A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora. 3Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb; 4Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod, 5Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw. 6Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. 7Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 8Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. 9Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. 10Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. 11Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. 12Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. 13Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; 14Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. 17Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: 18Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; 19Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol. 20O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer-sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly: 21Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.
Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
Currently Selected:
1 Timotheus 6: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.