YouVersion Logo
Search Icon

1 Timotheus 2

2
1Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; 2Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. 3Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad; 4Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd. 5Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu; 6Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i’w dystiolaethu yn yr amseroedd priod. 7I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. 8Am hynny yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddïo ym mhob man, gan ddyrchafu dwylo sanctaidd, heb na dicter na dadl. 9Yr un modd hefyd, bod i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr; 10Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da. 11Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd. 12Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd. 13Canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa. 14Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd. 15Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.

Currently Selected:

1 Timotheus 2: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in