YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 18

18
1Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. 2A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. 3Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. 4A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.
5A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd. 6A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. 7A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. 8A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? 9A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan.
10Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. 11A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef.
12A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. 13Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. 14A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r Arglwydd oedd gydag ef. 15A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef. 16Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt.
17A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) 18A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin? 19Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig. 20A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo. 21A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.
22A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin. 23A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael? 24A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. 25A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. 26A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto. 27Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.
28A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. 29A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth. 30Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.

Currently Selected:

1 Samuel 18: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in