YouVersion Logo
Search Icon

1 Brenhinoedd 4

4
1A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel. 2A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad; 3Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur; 4Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid; 5Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin; 6Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu. 8Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim. 9Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan. 10Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer. 11Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef. 12Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam. 13Mab Geber oedd yn Ramoth-gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres. 14Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim. 15Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig. 16Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth. 17Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar. 18Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin. 19Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.
20Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen. 21A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
22A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd; 23Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision. 24Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. 25Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.
26Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch. 27A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim. 28Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
29A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr. 30A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft. 31Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch. 32Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump. 33Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod. 34Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.

Currently Selected:

1 Brenhinoedd 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in