YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 4

4
1Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. 6A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. 7Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? 8Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?

Currently Selected:

1 Corinthiaid 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy