YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 3

3
1Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf-anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles: 2Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith: 3Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig. 4Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 5A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel: 6Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet, 7A Noga, a Neffeg, a Jaffia, 8Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw. 9Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.
10A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau; 11Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15A meibion Joseia; y cyntaf-anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum. 16A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.
17A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau, 18Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia. 19A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt: 20A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab-hesed, pump. 21A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia. 22A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech. 23A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri. 24A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

Currently Selected:

1 Cronicl 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in