YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 25

25
1A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd: 2O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin. 3A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd. 4O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti-ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth: 5Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu’r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched. 6Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman. 7A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl. 9A’r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 10Y trydydd i Saccur; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 11Y pedwerydd i Isri; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 12Y pumed i Nethaneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 13Y chweched i Bucceia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 14Y seithfed i Jesarela; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 15Yr wythfed i Jesaia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 16Y nawfed i Mataneia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 17Y degfed i Simei; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 18Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 19Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 20Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 21Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 22Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 23Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 24Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 25Y deunawfed i Hanani; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 26Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 27Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 28Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 29Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 30Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg. 31Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser; efe, a’i feibion a’i frodyr oedd ddeuddeg.

Currently Selected:

1 Cronicl 25: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in