YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 20

20
1Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a’i dinistriodd hi. 2A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas. 3A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt â llifiau, ac ag ogau heyrn, ac â bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.
4Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt. 5A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. 6Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr. 7Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef. 8Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

Currently Selected:

1 Cronicl 20: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in