Salmau 15
15
SALM XV
GWESTEION YR ARGLWYDD.
Salm Dafydd.
1 Pwy, O Iehofa, sydd gymwys i fod yn westai yn Dy babell?
Pwy sy’n addas i drigo ar Dy fynydd santaidd?
2Y gŵr a rodia’n gywir, a gwneuthur cyfiawnder,
A dywedyd y gwir o’i galon.
3Ni wylia’n llechwraidd ar ei gymydog,
Na gwneuthur niwed i’w gyfnesaf,
Na dodi sarhad ar neb a fo’n agos ato.
4Y mae’r dyhiryn yn ddirmygus ganddo,
Ond dyry anrhydedd i’r gŵr a barcho Iehofa;
Ac ar ôl rhoi ei air i’w gyfaill nid oes dim a’i symudo.
5Ni esyd ei arian ar log,
Ni chymer wobr yn erbyn y diniwed,
Nid ysgogir byth mo’r gŵr a wnelo hyn.
salm xv
Rhoddwyd amryw enwau swynol ar y Salm hon, megis ‘Salm y Boneddwr’ a ‘Salm Gwestai yr Arglwydd’ a ‘Salm y Dinesydd Perffaith’.
Ei hamcan oedd hyfforddi, canys nid yw’n emyn nac yn weddi. Os gwyddai’r awdur am y Deg Gorchymyn y mae’n rhyfedd iddo adael ohoni gyfeiriad at ddyletswydd dyn tuag at Dduw. Gellir ei chymharu â Salm 24.
Nodiadau
1. Enw barddonol am y Deml ydyw ‘pabell’ yma, a Sion neu Ieriwsalem ydyw ‘y mynydd santaidd’.
2. Nid yn unig dywedyd y gwir o’i galon, ond yn ei galon, y gŵr sydd yn rhydd oddi wrth ‘gelwydd yn yr enaid’.
3. Bu raid newid y mymryn lleiaf ar y testun i gael y darlleniad uchod, ond y mae’r hen gyfieithiad yn llai tebyg o fod yn gywir.
4. Gellir darllen cymal olaf yr adnod fel hyn: “Ceidw ei lw er i hynny beri niwed iddo”, a dyry calon dyn ei phleidlais dros hwn.
5. Llwyr waherddid usuriaeth a gwobr gan y ddeddf, ond caniateid hynny ynglŷn ag estroniaid, Deut. 23:20.
Pynciau i’w Trafod:
1. A fynegir yn y Salm hon swm gofyn Duw oddi ar ddyn? Cymherwch y Salm â Mic. 6:8; Es. 33:15 a Salm 24:3-6.
2. Sut y gellir cyfrif am y ffaith mai’r Iddewon ydyw prif usurwyr y byd heddiw?
3. A ydyw’n wir fod llwgrwobrwyo yn elfen anhyfryd ym mywyd cyhoeddus Cymru heddiw?
4. Pa wahaniaeth sydd rhwng gofyn y Salm hon â gofyn Cristnogaeth gan ddyn?
Currently Selected:
Salmau 15: SLV
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.