YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 10

10
Y disgyblion a’u cenhadaeth
1Wedi galw’i ddeuddeg disgybl ato, rhoddodd Iesu awdurdod iddyn nhw ar yr ysbrydion aflan, i’w taflu allan, ac i wella pob math o haint ac afiechyd. 2Dyma enwau’r deuddeg apostol: yn gyntaf, Simon, a gafodd yr enw Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholomeus: Thomas, a Mathew y casglwr trethi; Iago mab Alffeus, a Thadeus; 4Simon, un o’r Selotiaid, a Jwdas Iscariot, a drodd yn fradwr iddo.
5Dyma’r deuddeg anfonodd yr Iesu allan, wedi eu cyfarwyddo nhw fel hyn: “Peidiwch â chrwydro i dir paganaidd, a chedwch o drefi’r Samariaid. 6Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel. 7Cyhoeddwch wrth fynd, ‘Mae teyrnasiad y Nefoedd wedi agosáu.’ 8Rhowch iechyd i’r cleifion, bywyd i’r meirw, a glendid i’r gwahangleifion; y cythreuliaid teflwch nhw allan. Rydych wedi derbyn yn ddi-dâl, rhowch yn ddi-dâl. 9Ni fydd angen aur nac arian, na phres yn eich pwrs; 10na chwdyn i’r daith, na dau bâr o ddillad, na sandalau, na ffon; mae’r gweithiwr yn deilwng o’i fwyd.
11“Ble bynnag yr ewch chi, i dref neu bentref, holwch am ryw ddyn da, ac arhoswch yno nes daw’r amser ichi symud ymlaen. 12Wrth fynd i mewn i’r tŷ, rhowch eich bendith arno. 13Os yw ef yn haeddu hynny, gorffwysed eich tangnefedd arno; os nad yw’n haeddu, boed i’ch tangnefedd ddod nôl i chi. 14Os bydd i rywun wrthod eich derbyn neu wrando ar eich neges, wrth ichi fynd o’r tŷ hwnnw, neu’r dref honno, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed. 15Credwch fi, bydd yn esmwythach ar Sodom a Gomorra yn nydd y farn nag ar y dref honno.”
Erlid yn eu haros
16“Clywch, dyma fi’n eich anfon chi allan fel defaid yng nghanol bleiddiaid, byddwch felly’n gall fel seirff a diniwed fel colomennod.
17“Cymerwch ofal rhag dynion, fe fyddan nhw yn mynd â chi o flaen llysoedd, a’ch chwipio mewn synagogau; 18fe’ch dygir ger bron llywodraethwyr a brenhinoedd o’m hachos i, i roi eich tystiolaeth iddyn nhw ac i’r paganiaid. 19Ond pan osodir chi ar brawf, peidiwch â phryderu beth i’w ddweud na sut i’w ddweud; fe gewch chi’r geiriau priodol yr adeg honno, 20oblegid nid chi fydd yn dweud, ond Ysbryd eich Tad fydd yn llefaru trwoch chi.
21“Bydd brawd yn bradychu brawd i farwolaeth, a thad ei blentyn; bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu lladd. 22Fe gewch eich casáu gan bawb oherwydd f’enw i: ond pwy bynnag a ddafio hyd y diwedd a gaiff ei achub. 23Pan fyddan nhw’n eich erlid chi mewn un dref, ffowch i un arall. Credwch fi, ewch chi ddim drwy drefi Israel i gyd cyn y daw Mab y Dyn.
24“Dydy’r disgybl ddim uwchlaw ei athro, na’r gwas uwchlaw ei feistr. 25Fe ddylai’r disgybl fod yn fodlon i fod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os ydy dynion wedi galw gŵr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy felly ei deulu?
26“Felly peidiwch â’u hofni nhw. Does dim wedi ei guddio na chaiff ei ddatguddio, a does dim yn ddirgel na ddaw yn amlwg. 27Yr hyn a ddywedaf fi wrthych chi yn y tywyllwch, dywedwch chi hynny yng ngolau dydd; a’r pethau a sibrydir yn eich clust chi, cyhoeddwch ef o bennau’r tai. 28Peidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff ond na fedran nhw ddim lladd yr enaid. Yn hytrach dylech ofni yr hwn a all ddinistrio corff ac enaid yn uffern.
29“Onid pris adar y to yw dau am ffyrling? Ac eto, does dim un ohonyn nhw’n disgyn i’r ddaear heb i’ch Tad wybod hynny. 30Ond y mae hyd yn oed pob blewyn ar eich pen wedi ei gyfrif! 31Felly peidiwch ag ofni, rych chi’n werth mwy na llawer o adar y to.
32“Pwy bynnag fydd yn f’arddel i o flaen dynion, fe fyddaf innau yn ei arddel ef gerbron fy Nhad yn y nefoedd; 33ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron dynion, fe wnaf finnau ei wadu gerbron fy Nhad yn y nefoedd.”
Gosod Iesu’n gyntaf
34“Peidiwch â meddwl fy mod i yma i ddwyn heddwch i’r ddaear; nid heddwch a ddygaf fi ond cleddyf. 35Dod wnes i i droi dyn yn erbyn ei dad, merch yn erbyn ei mam, merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith. 36A gelynion dyn fydd ei deulu.
37“Dyw’r dyn sy’n caru ei dad neu ei fam yn fwy na mi ddim yn deilwng ohonof i; dyw’r sawl sy’n caru’i fab neu’i ferch yn fwy na mi ddim yn deilwng ohonof fi; 38a dydy hwnnw sy’n gwrthod codi’i groes a ’nilyn i ddim yn deilwng ohonof fi. 39Wrth geisio diogelu ei fywyd mae dyn yn ei golli; wrth ei golli er fy mwyn i, mae’n ei ddiogelu.
40“Pwy bynnag sy’n eich derbyn chi, mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy’n fy nerbyn i mae’n derbyn yr Hwn sy wedi fy anfon i. 41Mae pwy bynnag sy’n croesawu proffwyd am ei fod yn broffwyd yn mynd i gael gwobr proffwyd, a phwy bynnag sy’n derbyn dyn da am ei fod yn ddyn da yn cael gwobr dyn da. 42A phwy bynnag sy’n rhoi dim ond cwpanaid o ddŵr oer i un o’r rhai bychain hyn, am ei fod yn ddisgybl i mi, credwch fi, mae hwnnw’n hollol siŵr o’i wobr.”

Currently Selected:

Mathew 10: FfN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in