YouVersion Logo
Search Icon

Psalmae 6

6
Psal. 6.
1NA cherydda fi Arglwydd
yn dy lidiowgrwydd tosta:
Ag (o'th fawr drugaredd bīd)
fi yn dy līd na chospa.
2Arglwydd wrthif trugarhā
cans llesca wyf a’r ānwyd:
Iachā fi ō Arglwydd chwyrn
cans f’escyrn a gystuddiwyd.
3A’m henaid a ddychrynnwyd nawr
yn ddirfawr gann dy ofni:
Tithe Arglwydd rhōlwr bŷd
pa hŷd i’m poen-gystuddi.
4Dychwel Arglwydd, trō i’m plaid,
a gwared f’enaid gwaelēdd:
Iachā fi o nenn hyd lawr
er mwyn dy fawr drugaredd.
5Cans yn-nŷdd Angau dūa
nid oes gōffa am danad:
Ag yn y Bēdd gor-ddwfn hawl
pwy ath fawl ar gāniad.
6Deffygiais gann f’ochain frŷ,
fyng-wely gwnāf yn foddfa:
Fy heilltion ddagrau bōb nōs
fy ’n llīf dros fyng-orweddfa.
7Gann īng-ddigter arwa gād
fy llygad a dywyllod:
Herwydd fy hōll elynnion
fyngolwg llonn heneiddiodd.
8O ddiwrthif ciliwch ar fyrr
oll weithred-wyr anwiredd:
Cans yr Arglwydd clywodd ef
fyng-riddfan lēf wylofedd.
9Ef a glybu ’r Arglwydd dād
fy neisyfiad difri:
yr Arglwydd hefyd a fynn
dderbyn fymhrudd-wēddi.
10F’oll elynion gwradwyddir,
trallodir hwynt yn ddirfawr:
Dychwelir hwynt drwy gwilydd rhŵth
yn ddisymwth un-awr.

Currently Selected:

Psalmae 6: SC1603

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in