Y Salmau 149
149
1Molwch yr ARGLWYDD.
Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,
ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
2Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr,
ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
3Molwch ei enw â dawns,
canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
4Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl;
y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.
5Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant,
a llawenhau ar eu clustogau.
6Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau,
a chleddyf daufiniog yn eu llaw
7i weithredu dial ar y cenhedloedd
a cherydd ar y bobloedd;
8i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau,
a'u pendefigion â gefynnau haearn;
9i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer.
Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid.
Molwch yr ARGLWYDD.
Currently Selected:
Y Salmau 149: BCNDA
Highlight
Share
Copy
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004