Diarhebion 5
5
Rhybudd rhag Godineb
1Fy mab, rho sylw i'm doethineb,
a gwrando ar fy neall,
2er mwyn iti ddal ar synnwyr
ac i'th wefusau ddiogelu deall.
3Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,
a'i geiriau yn llyfnach nag olew,
4ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,
yn llymach na chleddyf daufiniog.
5Prysura ei thraed at farwolaeth,
ac arwain ei chamre i Sheol.
6Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;
y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.
7Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,
a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.
8Cadw draw oddi wrth ei ffordd;
paid â mynd yn agos at ddrws ei thŷ;
9rhag iti roi dy enw da i eraill
a'th urddas i estroniaid,
10a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth
ac i'th lafur fynd i dŷ estron;
11rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd,
pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,
12a dweud, “Pam y bu imi gasáu disgyblaeth,
ac anwybyddu cerydd?
13Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon,
nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.
14Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg
yng ngolwg y gynulleidfa gyfan.”
15Yf ddŵr o'th bydew dy hun,
dŵr sy'n tarddu o'th ffynnon di.
16Paid â gadael i'th ffynhonnau orlifo#5:16 Cymh. Groeg. Hebraeg, A orlifa dy ffynhonnau. i'r ffordd,
na'th ffrydiau dŵr i'r stryd.
17Byddant i ti dy hun yn unig,
ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.
18Bydded bendith ar dy ffynnon,
a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,
19ewig hoffus, iyrches ddymunol;
bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser,
a chymer bleser o'i chariad yn gyson.
20Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr,
a chofleidio estrones?
21Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un,
ac yn chwilio ei holl lwybrau.
22Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun,
ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;
23bydd farw o ddiffyg disgyblaeth,
ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.
Currently Selected:
Diarhebion 5: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004