Marc 2
2
Iacháu Dyn wedi ei Barlysu
Mth. 9:1–8; Lc. 5:17–26
1Pan ddychwelodd i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth y newydd ar led ei fod gartref. 2Daeth cynifer ynghyd fel nad oedd mwyach le i neb hyd yn oed wrth y drws. Ac yr oedd yn llefaru'r gair wrthynt. 3Daethant â dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario. 4A chan eu bod yn methu dod â'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tŷ lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni. 5Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” 6Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain, 7“Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae'n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?” 8Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain? 9P'run sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod, a chymer dy fatras a cherdda’? 10Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—meddai wrth y claf, 11“Dyma fi'n dweud wrthyt, cod, a chymer dy fatras a dos adref.” 12A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gŵydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, “Ni welsom erioed y fath beth.”
Galw Lefi
Mth. 9:9–13; Lc. 5:27–32
13Aeth allan eto i lan y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy. 14Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. 15Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion—oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef. 16A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 17Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Holi ynglŷn ag Ymprydio
Mth. 9:14–17; Lc. 5:33–39
18Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, “Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” 19Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio. 20Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw.
21“Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe â'r rhwyg yn waeth. 22Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd.”
Tynnu Tywysennau ar y Saboth
Mth. 12:1–8; Lc. 6:1–5
23Un Saboth yr oedd yn mynd trwy'r caeau ŷd, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu'r tywysennau wrth fynd. 24Ac meddai'r Phariseaid wrtho, “Edrych, pam y maent yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?” 25Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef? 26Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw, yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bwyta'r torthau cysegredig nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd hefyd i'r rhai oedd gydag ef?” 27Dywedodd wrthynt hefyd, “Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth. 28Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth.”
Currently Selected:
Marc 2: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004