YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 24

24
Gofalu am y Lampau
Ex. 27:20–21
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur o olifiau wedi eu gwasgu, a'i roi iti ar gyfer y goleuni, er mwyn cadw'r lamp ynghynn bob amser. 3Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau. 4Y mae'n rhaid gofalu bob amser am y lampau yn y canhwyllbren aur o flaen yr ARGLWYDD.
Bara'r ARGLWYDD
5“Cymer beilliaid a phobi deuddeg torth, a phob torth yn bumed ran o effa. 6Gosod hwy'n ddwy res, chwech ymhob rhes, ar y bwrdd aur o flaen yr ARGLWYDD. 7Rho thus pur ar y ddwy res, iddo fod ar y bara yn goffa ac yn aberth trwy dân i'r ARGLWYDD. 8Rhaid gosod y bara hwn o flaen yr ARGLWYDD bob amser, Saboth ar ôl Saboth, yn gyfamod tragwyddol ar ran pobl Israel. 9Bydd yn eiddo i Aaron a'i feibion, a byddant yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyma'r rhan sancteiddiaf o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD trwy ddeddf dragwyddol.”
Llabyddio Cablwr
10Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur. 11Cablodd mab y wraig o Israel enw Duw trwy felltithio, a daethant ag ef at Moses. Enw ei fam oedd Selomith ferch Dibri o lwyth Dan. 12Rhoddwyd ef yng ngharchar nes iddynt gael gwybod ewyllys yr ARGLWYDD. 13A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 14“Dos â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll; y mae pob un a'i clywodd i roi ei law ar ei ben, ac y mae'r holl gynulliad i'w labyddio. 15Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae pob un sy'n melltithio ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod; 16y mae pob un sy'n cablu enw'r ARGLWYDD i'w roi i farwolaeth, a'r holl gynulliad i'w labyddio. Pwy bynnag sy'n cablu enw Duw, boed estron neu frodor, rhaid iddo farw.
17“ ‘Os bydd rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall rhaid ei roi i farwolaeth. 18Os bydd rhywun yn lladd anifail rhywun arall, rhaid iddo wneud iawn, einioes am einioes. 19Os bydd rhywun yn niweidio'i gymydog, rhaid gwneud yr un peth iddo yntau, 20briw am friw, llygad am lygad, dant am ddant. Fel y bu iddo ef achosi niwed, felly y gwneir iddo yntau. 21Os bydd rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn; ond os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhaid ei roi i farwolaeth. 22Yr un fydd y rheol ar gyfer estron a brodor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”
23Llefarodd Moses wrth bobl Israel, ac yna aethant â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio â cherrig. Gwnaeth pobl Israel fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Currently Selected:

Lefiticus 24: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy