Lefiticus 22
22
Yr Offrymau Sanctaidd
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth Aaron a'i feibion am iddynt barchu'r offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i mi, rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd. Myfi yw'r ARGLWYDD.
3“Dywed wrthynt, ‘Dros y cenedlaethau i ddod, os bydd unrhyw un o'ch disgynyddion, ac yntau'n aflan, yn dod at yr offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i'r ARGLWYDD, rhaid ei dorri ymaith o'm gŵydd. Myfi yw'r ARGLWYDD.
4“ ‘Os bydd gan un o ddisgynyddion Aaron haint neu ddiferlif, ni chaiff fwyta'r offrymau sanctaidd nes ei lanhau. Bydd hefyd yn aflan os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw beth sy'n aflan neu ag unrhyw un sy'n gollwng ei had, 5neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw ymlusgiad sy'n achosi aflendid, neu ag unrhyw berson sy'n achosi aflendid, beth bynnag fyddo'r aflendid. 6Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r rhain yn aflan hyd yr hwyr, ac nid yw i fwyta o'r offrymau sanctaidd os na fydd wedi golchi ei gorff â dŵr. 7Wedi i'r haul fachlud, bydd yn lân, ac yna caiff fwyta o'r offrymau sanctaidd, oherwydd dyna'i fwyd. 8Nid yw i'w halogi ei hun trwy fwyta unrhyw beth sydd wedi marw neu wedi ei larpio gan anifail. Myfi yw'r ARGLWYDD.
9“ ‘Y mae'r offeiriaid i gadw fy ngofynion rhag iddynt bechu, a marw am eu halogi. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.
10“ ‘Nid yw neb estron i fwyta'r offrymau sanctaidd, neb sy'n westai neu'n was cyflog i offeiriad. 11Ond os bydd offeiriad yn prynu caethwas am arian, neu os bydd caethwas wedi ei eni yn ei dŷ, caiff y rheini fwyta'i fwyd. 12Os bydd merch i offeiriad yn priodi unrhyw un heblaw offeiriad, ni chaiff hi fwyta dim o'r offrymau sanctaidd. 13Ond os bydd merch i offeiriad yn weddw neu'n cael ei hysgaru, a hithau heb blant ac yn dychwelyd i fyw yn nhŷ ei thad fel pan oedd yn ifanc, yna caiff hi fwyta o fwyd ei thad. Nid yw neb arall i fwyta o'r bwyd.
14“ ‘Os bydd rhywun yn bwyta o'r offrwm sanctaidd yn anfwriadol, rhaid iddo wneud iawn am yr offrwm ac ychwanegu pumed ran at ei werth a'i roi i'r offeiriad. 15Nid yw'r offeiriaid i halogi'r offrymau sanctaidd a ddygodd pobl Israel i'r ARGLWYDD, 16trwy adael iddynt fwyta o'r offrymau, ac felly dwyn arnynt euogrwydd a chosb. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.’ ”
Offrymau Annerbyniol
17Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 18“Dywed wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel, ‘Os bydd un ohonoch, boed o dŷ Israel neu o'r estroniaid sydd yn Israel, yn cyflwyno rhodd yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, boed yn offrwm adduned neu'n offrwm gwirfodd, 19dylai ddod â gwryw di-nam o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr, er mwyn bod yn dderbyniol ar eich rhan. 20Peidiwch â chyflwyno unrhyw beth â nam arno, oherwydd ni fydd yn dderbyniol ar eich rhan. 21Os bydd unrhyw un yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, i dalu adduned neu'n offrwm gwirfodd, boed o'r gyr neu o'r praidd, rhaid iddo fod yn berffaith a di-nam i fod yn dderbyniol. 22Peidiwch â chyflwyno i'r ARGLWYDD ddim sy'n ddall, nac wedi ei archolli neu ei anafu, na dim â chornwyd, crach neu ddoluriau arno; peidiwch â gosod yr un o'r rhain ar yr allor yn offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD. 23Gallwch ddod â bustach neu hwrdd sydd wedi ei hagru, neu sy'n anghyflawn, yn offrwm gwirfodd, ond nid yw'n dderbyniol yn offrwm adduned. 24Nid ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD os bydd ei geilliau wedi eu briwo, eu gwasgu, eu rhwygo neu eu torri; nid ydych i wneud hyn yn eich gwlad, 25ac nid ydych i gymryd gan estron unrhyw un o'r rhain i'w gyflwyno'n fwyd i'ch Duw; gan eu bod wedi eu hanffurfio ac arnynt nam, ni fyddant yn dderbyniol ar eich rhan.’ ”
26Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 27“Pan enir llo, oen neu fyn, y mae i aros dan y fam am saith diwrnod; o'r wythfed dydd ymlaen bydd yn dderbyniol yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD. 28Peidiwch â lladd buwch neu ddafad a'i llwdn yr un diwrnod. 29Pan fyddwch yn cyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD, gwnewch hynny mewn modd y caiff ei dderbyn ar eich rhan; 30rhaid ei fwyta yr un diwrnod; peidiwch â gadael dim ohono hyd y bore. Myfi yw'r ARGLWYDD.
31“Cadwch fy ngorchmynion a'u gwneud; myfi yw'r ARGLWYDD. 32Peidiwch â halogi fy enw sanctaidd; rhaid fy sancteiddio ymysg pobl Israel. Myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio, 33ac a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, i fod yn Dduw ichwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.”
Currently Selected:
Lefiticus 22: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004