YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 63

63
Dydd Dial a Gwaredigaeth
1Pwy yw hwn sy'n dod o Edom,
yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch;
y mae ei wisg yn hardd,
a'i gerddediad yn llawn o nerth?
“Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder,
ac yn abl i waredu.”
2Pam y mae dy wisg yn goch,
a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?
3“Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan,
ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi;
sethrais hwy yn fy llid,
a'u mathru yn fy nicter.
Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad
nes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
4oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial,
a daeth fy mlwyddyn i waredu.
5Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu,
a synnais nad oedd neb i'm cynnal;
fy mraich fy hun a'm gwaredodd,
a chynhaliwyd fi gan fy nicter.
6Sethrais y bobl yn fy llid,
a'u meddwi yn fy nicter,
a thywallt eu gwaed ar lawr.”
Mawl a Gweddi
7Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD,
a chanu ei glodydd
am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni,
a'i ddaioni mawr i dŷ Israel,
am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd,
ac o lawnder ei gariad di-sigl.
8Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt,
plant nad ydynt yn twyllo”,
a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.
9Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd;
yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy,
a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.
10Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;
troes yntau'n elyn iddynt,
ac ymladd yn eu herbyn.
11Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,
am Moses a'i bobl.
Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môr
fugail ei braidd?
Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy
ei ysbryd sanctaidd,
12a pheri i'w fraich ogoneddus
arwain deheulaw Moses,
a hollti'r dyfroedd o'u blaen,
i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?
13Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd,
fel arwain march yn yr anialwch;
14mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn
y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy.
Felly yr arweiniaist dy bobl,
a gwneud iti enw ardderchog.
15Edrych i lawr o'r nefoedd,
o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gwêl.
Ple mae dy angerdd a'th nerth,
tynerwch dy galon a'th dosturi?
Paid ag ymatal rhagom,
16oherwydd ti yw ein tad.
Er nad yw Abraham yn ein hadnabod,
nac Israel yn ein cydnabod,
tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad,
Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.
17Pam, ARGLWYDD, y gadewaist i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd,
a chaledu ein calonnau rhag dy ofni?
Dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.
18Pam y sathrodd annuwiolion dy gysegr,#63:18 Tebygol. Hebraeg, O'r braidd yr etifeddodd pobl dy gysegr.
ac y sarnodd ein gelynion dy le sanctaidd?
19Eiddot ti ydym ni erioed;
ond ni fuost yn rheoli drostynt hwy,
ac ni alwyd dy enw arnynt.

Currently Selected:

Eseia 63: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy