YouVersion Logo
Search Icon

Habacuc 2

2
Yr ARGLWYDD yn Ateb Eto
1Safaf ar fy nisgwylfa,
a chymryd fy safle ar y tŵr;
syllaf i weld beth a ddywed wrthyf,
a beth fydd ei ateb i'm cwyn.
2Atebodd yr ARGLWYDD fi:
“Ysgrifenna'r weledigaeth,
a gwna hi'n eglur ar lechen,
fel y gellir ei darllen wrth redeg;
3oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—
daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.
Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,
oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
4Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,
ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”
Gwaeau
5Y mae cyfoeth#2:5 Felly Sgrôl. TM, gwin. yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;
y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,
ac fel marwolaeth yn anniwall,
yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun
ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.
6Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,
ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,
“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,#2:6 Hebraeg yn ychwanegu Am ba hyd?
ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”
7Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,
ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,
a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
8Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,
bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
9Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,
er mwyn gosod ei nyth yn uchel,
a'i waredu ei hun o afael blinder.
10Cynlluniaist warth i'th dŷ dy hun
trwy dorri ymaith bobloedd lawer,
a pheryglaist dy einioes dy hun.
11Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,
ac etyb trawst o'r gwaith coed.
12Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,
ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.
13Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:
fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,
a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
14Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,
fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.
15Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,
ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
16Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.
Yf dithau nes y byddi'n simsan.#2:16 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, nes y byddi'n ddienwaededig.
Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,
a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
17Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn,
a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
18Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd?
Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd.
Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith,
nid yw'n gwneud ond delwau mud.
19Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”,
ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”.#2:19 Hebraeg yn ychwanegu Hwn sy'n dysgu.
Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian,
ond nid oes dim anadl ynddo.
20Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd;
bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.

Currently Selected:

Habacuc 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in