YouVersion Logo
Search Icon

2 Esdras 16

16
1Gwae di, Fabilon, ac Asia hefyd! Gwae di, yr Aifft, a Syria! 2Ymwregyswch â sachliain a blew geifr, galarwch a thristewch dros eich plant, oherwydd y mae eich distryw gerllaw. 3Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith? 4Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd? 5Y mae drygau wedi eu gollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w gyrru yn eu hôl? 6A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu? 7A all unrhyw un droi yn ei ôl saeth a yrrwyd gan saethwr cryf? 8Yr Arglwydd Dduw sy'n gyrru'r drygau, a phwy sydd i'w troi yn eu hôl? 9Bydd tân yn mynd allan o'i lid ef, a phwy sydd i'w ddiffodd? 10Bydd yn melltennu, a phwy nid ofna? Bydd yn taranu, a phwy nid arswyda? 11Yr Arglwydd fydd yn bygwth, a phwy ni lethir yn llwyr yn ei ŵydd ef? 12Crynodd y ddaear o'i sylfeini, a'r môr yn ymchwyddo o'i ddyfnderoedd, a'r tonnau a'r pysgod sydd ynddo yn gyffro i gyd yng ngŵydd yr Arglwydd a gogoniant ei nerth. 13Oherwydd nerthol yw deheulaw yr hwn sy'n anelu'r bwa, a llym yw'r saethau a ollyngir ganddo, ac unwaith ar eu ffordd ni ddiffygiant nes cyrraedd terfynau eithaf y ddaear. 14Wele ddrygau ar eu ffordd, ac ni bydd troi arnynt nes mynd ar hyd y ddaear. 15Y mae'r tân yn cynnau, ac ni ddiffoddir ef nes iddo ddinistrio sylfeini'r ddaear. 16Fel nad yw saeth a ollyngir gan saethwr cydnerth yn dychwelyd, felly hefyd ni bydd troi'n ôl ar y drygau a ollyngir ar y ddaear.
17Gwae fi, gwae fi! Pwy a'm gwared yn y dyddiau hynny? 18Dechrau gwaeau, a bydd ochneidio mawr; dechrau newyn, a bydd llawer yn marw; dechrau rhyfeloedd, a bydd pwerau yn ofni; dechrau drygau, a bydd pawb yn crynu. Beth a wna neb, felly, pan ddaw'r drygau yn eu grym? 19Dyna newyn a phla, cystudd a chyni, wedi eu hanfon yn fflangellau i gywiro pobl. 20Eto, ynghanol hyn i gyd, ni thrônt oddi wrth eu drygioni, na chadw'r fflangellau mewn cof yn hir. 21Bydd bwydydd mor rhad ar y ddaear fel y cred y bobl fod eu ffyniant yn sicr, ond dyna'r union adeg y bydd drygau'n blaguro ar y ddaear—cleddyf, newyn a therfysg mawr. 22Bydd mwyafrif trigolion y ddaear yn marw o newyn; a'r gweddill, y rhai a ddihangodd rhag y newyn, yn cael eu difa gan gleddyf. 23A theflir allan y meirw fel tail, ac ni bydd neb i gynnig cysur; oherwydd gadewir y ddaear yn anghyfannedd a'i dinasoedd yn adfeilion. 24Ni bydd neb ar ôl i drin y tir a'i hau. 25Bydd y coed yn dwyn eu ffrwythau, ond pwy fydd i'w cynaeafu? 26Bydd y grawnwin yn aeddfedu, ond pwy fydd i'w sathru? Oherwydd bydd y broydd yn anghyfannedd hollol; 27bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais. 28Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau. 29Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd, 30neu fel y gadewir rhai sypiau o rawnwin ar ôl mewn gwinllan hyd yn oed ar ôl ei chwilio'n ofalus gan gasglwyr llygatgraff, 31felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf. 32Gadewir y ddaear yn anghyfannedd, a meddiennir y meysydd gan ddrysni; bydd drain yn tyfu ar ffyrdd a holl lwybrau'r ddaear, am na bydd defaid yn eu tramwyo. 33Bydd morynion yn galaru am nad oes ganddynt ddarpar-wŷr, bydd gwragedd yn galaru am nad oes ganddynt wŷr, a'u merched yn galaru am nad oes iddynt neb i'w cynnal. 34Lleddir darpar-wŷr y naill yn y rhyfel, a bydd gwŷr y lleill yn marw o newyn.
Pobl Dduw yn Paratoi ar gyfer y Diwedd
35Ond gwrandewch y geiriau hyn, chwi wasanaethyddion yr Arglwydd, a'u hystyried yn fanwl. 36Dyma air yr Arglwydd; derbyniwch ef, a pheidiwch ag amau yr hyn sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud. 37Yn wir, y mae'r drygau yn agos; nid oes dal yn ôl arnynt. 38Pan yw gwraig feichiog yn ei nawfed mis, a'i hamser i esgor yn agos, bydd poenau arteithiol yn ei chroth am ddwy neu dair awr; ond yna, pan yw'r baban yn dod allan o'r groth, ni all hi ddal ei phlentyn yn ôl am un munudyn. 39Felly y daw'r drygau allan dros y ddaear yn ddi-oed, a bydd y byd yn griddfan gan y poenau sy'n ei ddal o bob tu.
40Gwrandewch ar y gair, fy mhobl; ymbaratowch ar gyfer y frwydr, ac ynghanol y drygau byddwch fel dieithriaid ar y ddaear. 41Gwertha fel un ar ffo, a phryna fel un ar dranc; 42masnacha fel un heb obaith am elw, ac adeilada dŷ fel un sydd heb obaith byw ynddo. 43Heua fel un na chaiff fedi, a'r un modd tocia'r gwinwydd fel un na wêl y grawnwin. 44Priodwch fel rhai na fydd iddynt blant, a byddwch heb briodi fel rhai a fydd yn weddwon. 45Felly y mae'r rhai sy'n llafurio yn llafurio'n ofer; 46estroniaid fydd yn medi eu ffrwyth hwy, gan ysbeilio eu cyfoeth a dymchwel eu tai, a chaethiwo'u meibion, oherwydd mewn caethiwed a newyn y maent yn cenhedlu plant. 47Nid yw arian yr arianwyr yn ddim ond ysbail; po fwyaf yr addurnant eu dinasoedd, eu tai, eu meddiannau a'u cyrff eu hunain, 48mwyaf oll y byddaf finnau'n ddig wrthynt am eu pechodau, medd yr Arglwydd. 49Fel dicter gwraig barchus, rinweddol tuag at butain, 50felly y bydd dicter cyfiawnder tuag at anghyfiawnder a'i holl addurniadau; fe'i cyhudda wyneb yn wyneb, pan ddaw pleidiwr yr un sy'n chwilio allan bob pechod ar y ddaear. 51Felly peidiwch ag efelychu anghyfiawnder na'i weithredoedd. 52Oherwydd mewn byr amser fe'i symudir oddi ar y ddaear, a chyfiawnder fydd yn llywodraethu arnom.
53Peidied y pechadur â dweud nad yw wedi pechu, oherwydd llosgir marwor tanllyd ar ben yr un sy'n dweud, “Nid wyf fi wedi pechu gerbron Duw a'i ogoniant ef.” 54Yn sicr y mae'r Arglwydd yn gwybod am holl weithredoedd dynion, eu cynlluniau, a'u bwriadau, a'u meddyliau dyfnaf. 55Dywedodd ef, “Bydded daear,” a daeth i fod; a “Bydded nef,” a daeth hithau i fod. 56Yn unol â'i air ef y gosodwyd y sêr yn eu lle, ac y mae eu nifer hwy yn hysbys iddo. 57Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys. 58Â'i air cyfyngodd ef y môr oddi mewn i derfynau'r dyfroedd, a gosod y ddaear ynghrog uwchben y dŵr. 59Taenodd ef y nef fel cronglwyd, a'i sefydlu goruwch y dyfroedd. 60Gosododd ffynhonnau dŵr yn yr anialwch, a llynnoedd ar ben y mynyddoedd i ollwng afonydd i lawr o'r ucheldir i ddyfrhau'r ddaear. 61Lluniodd ef ddyn, a gosod calon yng nghanol ei gorff; rhoddodd ynddo ysbryd a bywyd a deall, 62ynghyd ag anadl y Duw Hollalluog, a greodd bob peth ac sy'n chwilio pethau cuddiedig mewn mannau dirgel. 63Yn ddiau y mae hwn yn gwybod am eich cynllun chwi, ac am fwriadau eich meddwl. Gwae'r pechaduriaid a'r rhai sy'n dymuno cuddio'u pechodau! 64Am hynny bydd yr Arglwydd yn chwilio'n fanwl eu holl weithredoedd hwy, a pheri i chwi i gyd gywilyddio. 65Gwaradwydd fydd i chwi pan ddaw eich pechodau allan yn agored gerbron pawb; bydd eich anghyfiawnderau yn sefyll i'ch cyhuddo yn y dydd hwnnw. 66Beth a wnewch chwi? Sut y gallwch guddio'ch pechodau oddi wrth Dduw a'i angylion? 67Duw yn wir yw'r barnwr; ofnwch ef! Rhowch y gorau i'ch pechu, a rhowch heibio eich anghyfiawnderau, i beidio â'u cyflawni byth mwy. Yna daw Duw â chwi allan, a'ch rhyddhau o'ch holl drallodion. 68Oherwydd yn wir y mae llu mawr â'u hawch amdanoch ar dân; fe gipiant ymaith rai ohonoch, a'ch bwydo â bwyd a offrymwyd i eilunod. 69Caiff y rhai sy'n ildio iddynt eu gwatwar ganddynt, a'u diystyru, a'u sathru dan draed. 70Mewn lle ar ôl lle#16:70 Tebygol. Lladin yn aneglur. a thrwy'r dinasoedd cyfagos, cyfyd erledigaeth chwyrn ar y rhai sy'n ofni'r Arglwydd. 71Fel dynion gorffwyll, ni fyddant yn arbed neb wrth anrheithio a difrodi'r rhai sy'n dal i ofni'r Arglwydd. 72Oherwydd difrodant ac anrheithiant eu cyfoeth, a'u bwrw allan o'u cartrefi. 73Yna bydd yn amlwg fod fy etholedigion wedi eu profi, fel aur sy'n cael ei brofi yn y tân.
74“Gwrandewch, fy etholedigion,” medd yr Arglwydd, “dyma ddyddiau'r cyfyngder wedi dod, ond fe'ch gwaredaf chwi ohonynt. 75Peidiwch ag ofni na phetruso, oherwydd Duw yw eich arweinydd chwi. 76Chwi sy'n cadw fy neddfau a'm gorchmynion i,” medd yr Arglwydd Dduw, “peidiwch â gadael i'ch pechodau gael y gorau arnoch, nac i'ch anghyfiawnderau gael y trechaf arnoch. 77Gwae'r rhai sydd yn rhwym gan eu pechodau ac wedi eu gorchuddio gan eu hanghyfiawnderau. Y maent fel maes wedi ei oresgyn gan lwyni, a'i lwybr#16:77 Yn ôl darlleniad arall, a'i had. wedi ei orchuddio gan ddrain, heb ffordd i ddyn fynd trwyddo; 78fe'i caeir, a'i draddodi i'w ddifa â thân.”

Currently Selected:

2 Esdras 16: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in