Gweledigeth 15
15
Pen. xv.
1 Saith Angel a’ chanthynt saith y pla dywethaf. 3 Caniat yr ei a orchvygasont y bestvil. 7 Y saith phiolae yn llawn o ddigofein Dyw.
1AC mi weleis arwydd arall mawr yn y nef a’ rryfedd, seith Angel a chantynt y seyth pla diwetha: cans trwyddynt hwy llid Dyw y gyflawnwyd.
2Ac mi weleis mal by bei mor gwydrol, gwedy y gymysgy a thā ar sawl y gawsant y llaw ’n ycha ar yr #15:2 * bestvilenifel, ae ddelw, ac ar y nod, ac ar rrif y enw ef, yn sefyll #15:2 ‡ wrthar ’lan] y mor gwydrol, a thelyney Dyw ganthynt.
3Ac hwy ganasāt ganiat Moysen gwasanaethwr Dyw, a chaniat yr Oen, dan ddwedyd, Mawr, a ’rryfedd ydynt dy weithredoedd, Arglwydd Ddyw hollallyawc: cyfiawn a’ chywir ynt dy ffyrdd, Brenin y Seint.
4Pwy nath ofna di Arglwydd, a gogoniantu dy Enw? cans ti yn unic wyd santeidd, ar holl nasioney y ddont ac aðolant gair dy vron di: cans dy #15:4 * vrodieuvarney di ydynt cohoyddys.
5Ac yn ol hynn my edrycheis, a’ syna, yrydoedd tem’l #15:5 ‡ lluest, tēt, tyleyTabernacl y tustolaeth yn agored yn y nef.
6A’r seith Angel y ddeythont allan or dem’l, yrrein oeddent ar seith pla ganthynt, ae dillad oedd llien pur #15:6 * claer, dysclaergloyw, ac wedy ymwregysu ynghylch y broney a gwregysey aur.
7Ac vn o’r pedwar enifel y roedd yr seith Angel seith phiol aur yn llawn o #15:7 ‡ ddicter, llid, soriantðigovent Dyw, yr hwn y sydd yn byw yn #15:7 * oes oesoeðdragywydd.
8Ac yrydoedd y demel yn llawn o vwg gogoniant Dyw ae allu, ac ny doedd neb yn abyl y vyned y mewn yr demel, hed yn ðarfod gyflewni seith pla y seith Angel.
Currently Selected:
Gweledigeth 15: SBY1567
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2018