YouVersion Logo
Search Icon

Gweledigeth 12

12
Pen. xij.
1 Ymddangos a wnaeth yn y nef gwreic gwedy ymwisco a’r haul. 7 Mihacael yn ymladd ar ddraic, yr hwn ’sy yn ymlid y wreic. 11 Cahel y vuddygoliaeth trwy conffort y ffyddlonieit.
1A Rryfeddod mawr y ymddangosoedd yn y nef: Gwreic gwedy ymwisco ar haul, ar lleyad oedd dan y thraed, ac ar y phen coron o ðeyddec seren,
2Ac yrodoedd hi yn veichioc ac hi lefoeð dan dravaylu ar y thymp, a hi ddolyrioed yn barod y gael yscar llaw.
3A’ rryveddod arall ymddangosoedd yny nef, a’ synna, dreic coch mawr a seith pen yddo, a dec corn, a’ seith coron ar y #12:3 talaithpenney:
4Ae gynffon ef y dynoedd trayan ser y nef, ac y bwroedd hwynt yr ddayar. Ar ddreic y safoedd gair bron y wreic, yr hon ydoedd yn barod y ga el yscar llaw, y vwytta y phlentyn hi, #12:4 pan y genityn hwy nac y genyd ef,
5A’ mab‐#12:5 * gwrywwr y aned yddi, yr hwn y rreoley yr holl nasioney a gwialen hayarn: ay mab y gymerspwyd y vynydd at Ddyw ac at y eisteddle ef.
6Ar wreic y #12:6 * ffooddgiloedd yr diffeyth lle may #12:6 bangyfle gwedy Ddyw y barottoi yddi, mal y gal’ent y phorthi hi yno mil o ddiwarnodey a thrigen a doy cant.
Yr Epistol ar ddydd Mihacael.
7A’ #12:7 cad, brwydrrryfel oedd yny nef, Mihangel ae Angylion ef ymladdasant yn erbyn y dreic, ar dreic ymladdoedd ef ae Angylion ef.
8Ac ny #12:8 orthresantchawsont y llaw yn ycha, ac ny chafad y lle hwynt o hyny allan yn y nef.
9A’ bwrw allan y wneythpwyd y dreic mawr, yr hen sarph, yr hwn y elwir y #12:9 * diavolcythrel, a’ Satan, yr hwn ysydd yn #12:9 sionitwyllo yr holl vyd: ys y vwrw y wneythpwyd ef yr ddayar, ae Angylion y vwrwyd allan gydac ef.
10Yno mi glyweis lleis ywchel, yn dwedyd, Yrowron y mae iechid yn y nef, a’ #12:10 nerthgrym, a thyrnas yn Dyw ni, a gallu y Grist ef: can ys cyhyddwr yn brodyr ni y vwrwyd yr llawr, yr hwn ydoedd yn y cyhyðo hwynt gair bron yn Dyw dydd a’nos.
11Ac hwy #12:11 gorchvygesontgortrechasant ef trwy waed yr Oen, a’ thrwy geir y testolaeth hwynt, ac ny charasant y bowyd hed #12:11 angeuat marw.
12Am hyny, llawenhewch, y nefoedd, a’r sawl #12:12 * ’sy, ydychydynt trigadwy ydynt hwy. Gwae yr rrei #12:12 * ’sy, ydychydynt trigadwy yn y ddayar, a’r mor: cans y #12:12 diavolcythrel y ddiscynoedd attoch chwi, yr hwn y sydd a llid mawr gantho, herwydd gwybod nad ydiw y amser ef ond byrr.
13A’ phan gwelas y ddreic y vwrw yr ðayar, ymlid y wnaeth ef y wreic y #12:13 * escoroð ar y gwr‐rywddygoedd y mab yr byd.
14A dwy adein eryr mawr y rroed yr wreic, yddi #12:14 y hedechedfan yr diffeth, #12:14 * ywyddy lle, ddys yny magi hi dros amser, ac amseroedd, ac hanner amser, rrac wyneb y sarph.
15Ar sarph y vwroedd oe safn allan ar ol y wreic ddwr mal #12:15 * llifeiriantllifddvvr, ar veder cael y dwyn hi ffwrð gan y llifddvvr.
16A’r ddayar y #12:16 helpioeddcynorthwyoedd y wreic, ar #12:16 * ddaiartir agoroeð ei geneu, ac y lyngcoeð y llifddvvr, yr hwn y vwroedd y ddreic allan oe safn.
17A’ llidio a oruc y ddreic #12:17 wrthyn erbyn y wreic, a’ myned y wnaeth ef y rryfely yn erbyn gweddillion y hilogaeth hi, yrrein ydynt yn cadw gorchmyney Dyw, ac ysydd a thystolaeth Iesu Christ ganthynt.
18Ac mi sefeis ar #12:18 * dyvot, y veisdondraethey mor.

Currently Selected:

Gweledigeth 12: SBY1567

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in