YouVersion Logo
Search Icon

Matthew 9

9
Pen. ix.
Christ yn iachay’r parlys. Ac yn maddeu pechotau. Yn galw ac yn ymweled a’ Mathew. Am trugaredd. Christ yn atep y Pharisaieit a’ discipulon Ioan. Am y brethyn crei a’r gwin newydd. Y vot ef yn i achay ’r wraic o’r haint gwaed. Ef yn cyfody merch Iairus. Yn rhoi i ddau ddall ei golwc. Yn gwneythyd i vudan ddywedyt. Yn precethy ac yn iachay mewn amrafel vannae. Ac yn annoc gweddiaw er mwyn cynyddy yr Euangel.
Yr Euangel y xix. Sul gwedy Trintot.
1AC ef aeth y mewn ir llong, ac aeth trosawdd, ac a ddeuth y’w ddinas ehun. 2A’nycha, wy a dducesant ataw wr claf o’r parlys, yn gorwedd #9:2 * armewn gwely. A’r Iesu yn gweled y ffydd wy, a ddyvot wrth y claf o’r parlys, Y map, ymddiriet: maddeuwyt y ty dy pechatae. 3A’ nycha, yr ei or Gwyr‐llen a ddywedėt wrthyn ehunain, Y mae hwn yn #9:3 * dywedyt yn anduwiolcaply. 4A’ phan welawdd yr Iesu ey meddyliae, y dyvot, Pa am y meddylywch bethae drwc yn eich calonae? 5Can ys pa‐un #9:5 hawddafhawsaf ei dyywedyt, Maddeuwyt y‐ty dy bechtae, ai dywedyt, Cyvot, a’ rhotia? 6Ac er mwyn ychwy wybot vot #9:6 * gallu, anturatmeddiant i Vab y dyn ar y ðaiar y vaðae pechatae, (yno y dyvot ef wrth y claf o’r parlys) Cyvot, cymer dy wely, a’ dos ith tuy. 7Ac ef agyvodes, ac aeth ymaith #9:7 * yddyy ew duy ehun. 8Velly pan ei canvu ’r dyrva, rhyveddy a wnaethant, a gogoneddy Duw, yr hwn a roesei gyfryw awturtat i ddynion.
Yr Euangel ar ddydd S. Matthevv.
9¶ Ac val ydd oedd yr Iesu yn myned o ddynaw, e ganvu ’wr yn eistedd wrth y ðollva a elwit Matthew, ac a ddyvot wrthaw, #9:9 * DilinCanlyn vi. Ac ef a gyfodes, ac ei canlynawdd. 10Ac e ddarvu, a’r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, nycha, #9:10 * tollwyrPublicanot lawer a’ phechaturieit, a’ ddaethent ynavv, a eisteddesant i vwyta gyd a’r Iesu a’ ei ddiscipulon. 11A’ phan welawdd y Pharisaieit hynny, wy ddywedesont wrth y ddiscipulon ef. Paam y bwyty eich #9:11 athrodyscyawdr gyd a’r Publicanot a’ phecaturieit? 12A’ phan glypu’r Iesu, e ddyvot wrthynt, Nid reit ir ei iach wrth #9:12 * physigwrveddic, anid ir ei cleifion. 13An’d ewch a’ dyscwch pa beth yw hynn Trugaredd a #9:13 vynnafewyllyseis, ac nyd aberth: can na ddauthym i’ alw’r ei cyfiawn, amyn y pechaturieit y ddyvot‐ir‐iawn.
14¶ Yno yð aent discipulon Ioan ataw, gan ddywedyt, Paam yð ymprydiwn ni a’r Pharisaieit yn vynech, ath ddiscipulon di eb vmprydiaw? 15A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, A all plant #9:15 y gwr priodyr ystavell‐briodas #9:15 * ddwyn galargwynvan tra vo’r gwr #9:15 priod y gyd ac wynt? An’d e ddawr dyddiae pan ddyger y #9:15 newydd weddocgwr‐priawd o ddiarnynt, ac yno ydd vmprydiant. 16Eb law hyny ny ddyd nep lain o vrethyn newydd mewn hen wisc: can ys hyn a ddylyei ei gyflawny, a dynn beth o y wrth y wisc, a rhwygfa #9:16 * ys yddaa yn waeth. 17Ac ny ddodant ’win newydd mewn llestri hen: can ys velly y torrei’r llestri, ac y #9:17 gellyngirdineuhir, y gwin, ac y collir y llestri: an’d gwin newydd a ddodant mywn llestri newyð, ac velly y cedwir y ddau.
Yr Euangel y xxiiij. gwedy Trintot.
18¶ Tra oeddd ef yn ymadrodd wrthwynt, nycha,, y deuth ryw pennaeth, ac’ addolawdd iddaw, can ddywedyt, E vu varw veu merch yr awrhon, and dyred a’ #9:18 * dodgesot dy law arnei, a’ byw vydd hi. 19A’r Iesu a g’odes ac ei dylynawdd, ef aei ddiscipulon. 20(Ac wele wreic a oedd a haint #9:20 gwaedlin, gwaedgerð, gweddgollgwaedlif arnei dauddec blynedd, a ddaeth or #9:20 * lwyr eitu cefyn yddaw, ac a gyfhyrddawdd ac #9:20 ar, godref, hememyl y wisc ef. 21Can ys hi a ddiwedesei ynthei e hun, A’s gallaf gyhwrdd aei wisc ef yn vnic, #9:21 * iach vyddaf, mi af yn iachi’m iacheer. 22Yno yr Iesu ymchwelawdd, a chan y gweled hi, y dyvot, Ha verch, bydd gysyrus: dy ffydd ath iachaodd. A’r wreic a #9:22 wnaethpwyt yn iach #9:22 o’ryn yr awr hono.) 23A’ phā ddaeth yr Iesu i duy’r pennaeth, a’ gweled y cerddorion a’r tyrfa yn #9:23 * tyrfutrystiaw, 24y dyvot wrthwynt, #9:24 CilwchEwch ymaith: can nad marw’r vorwyn, anid cyscu y mae hi. Ac wynt ei gwatworesont ef. 25A’ phan yrrwyt y tyrfa allan, ef aeth i mewn ac a ymavlawdd yn hi llaw, a’r vorwyn a gyvodes. 26A’r gair o hynn aeth tros yr oll tir hwnw.
27Ac val yð oeð yr Iesu yn myned o yno, dau ðalliō a ei #9:27 * canlynesontdilynesont ef, gan lefain a ’dywedyt, Map Dauid trugarha wrthym. 28A’ gwedy iddo ddyvot yr tuy, y daeth y daillion ataw, a’r Iesu a ddyvot wrthwynt, A gredwch chvvi y galla vi wneythyd hyn? Ac wy a ddywedesont wrthaw, Credwn, Arglwydd. 29Yno y cyhyrddodd ef a ei llygaid, gan ðywedyt, #9:29 Yn ol, WrthHerwydd eich ffydd bid y chwi. 30A ei llygaid a egorwyt, a’r Iesu a #9:30 oruwchmynnawð yddwynt, gan ddywedyt, Gwelwch nas gwypo nep. 31An’d gwedi yddwyn ymadaw, wy #9:31 eu clodvawresont ef trwy’r oll dir hwnw.
32¶ Ac wynt yn myned allan, #9:32 * welenycha, wy yn dwyn attaw vudan #9:32 a chythrael ynthawcythreulic. 33A’ gwedi bwrw’r cythraul o honavv y #9:33 * ymadroddodddyvot y mudan: yno y rhyveddawdd y dyrfa gan ddywedyt, Ny welpwyt y cyffelip erioed yn Israel. 34A’r Pharisaieit a ddywedesont, Trwy benaeth y cythreulieit y mae ef yn bwrw allan gythreulieit. 35A’r Iesu aeth o y amgylch yr oll ddinasoeð a’ threfi, gan ei‐dyscy yn ei Synagogae, ac yn precethy Euangel y deyrnas, ac yn iachay pop haint a phob #9:35 anhwylclefyd ymplith y popul. 36A’ phan welawdd ef y dyrfa, ef a dosturiawdd wrthwynt, can ys ey bot gwedy i #9:36 * gohanyhylltrawy, a’ ei goyscary val defeit eb yddyn vugail. 37Yno y dyvot ef y’w ddiscipulon, Diau vot #9:37 heiniary cynayaf yn vawr, ar gweithwyr yn anaml. 38Can hyny #9:38 * erchwchdeisyfwch a’r Arglwydd y cynhayaf ar ddanfon gweithwyr y’w gynayaf.

Currently Selected:

Matthew 9: SBY1567

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in