1
Diarhebion 3:5-6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Compare
Explore Diarhebion 3:5-6
2
Diarhebion 3:7
Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.
Explore Diarhebion 3:7
3
Diarhebion 3:9-10
Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win.
Explore Diarhebion 3:9-10
4
Diarhebion 3:3
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon
Explore Diarhebion 3:3
5
Diarhebion 3:11-12
Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid â digio wrth ei gerydd; oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
Explore Diarhebion 3:11-12
6
Diarhebion 3:1-2
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof. Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
Explore Diarhebion 3:1-2
7
Diarhebion 3:13-15
Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.
Explore Diarhebion 3:13-15
8
Diarhebion 3:27
Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.
Explore Diarhebion 3:27
9
Diarhebion 3:19
Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd
Explore Diarhebion 3:19
Home
Bible
Plans
Videos