Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,
a thrysori fy ngorchmynion,
a gwrando'n astud ar ddoethineb,
a rhoi dy feddwl ar ddeall;
os gelwi am ddeall,
a chodi dy lais am wybodaeth,
a chwilio amdani fel am arian,
a chloddio amdani fel am drysor—
yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,
a chael gwybodaeth o Dduw.