Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i,
am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i’w wasanaethu.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi
newyddion da i’r tlodion,
i drin briwiau’r rhai sydd wedi torri eu calonnau,
a chyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,
ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma,
a’r diwrnod pan fydd Duw yn dial;
i gysuro’r rhai sy’n galaru –
ac i roi i alarwyr Seion
dwrban ar eu pennau yn lle lludw,
ac olew llawenydd yn lle galar,
mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.