1
Eseia 60:1
beibl.net 2015, 2024
“Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!
Compare
Explore Eseia 60:1
2
Eseia 60:3
Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni, a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
Explore Eseia 60:3
3
Eseia 60:2
Er bod tywyllwch yn gorchuddio’r ddaear a thywyllwch dudew dros y gwledydd, bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i’w weld arnat.
Explore Eseia 60:2
4
Eseia 60:22
Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth, a’r lleiaf yn troi’n genedl fawr. Fi ydy’r ARGLWYDD! Pan ddaw’r amser iawn bydda i’n gwneud hyn ar frys!”
Explore Eseia 60:22
5
Eseia 60:19
Fydd dim angen yr haul i oleuo’r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
Explore Eseia 60:19
6
Eseia 60:20
Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.
Explore Eseia 60:20
7
Eseia 60:5
Pan weli hyn byddi’n wên i gyd; bydd dy galon yn curo wrth brofi’r wefr. Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti, a chyfoeth y gwledydd yn dod atat.
Explore Eseia 60:5
8
Eseia 60:4
Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw’n dod atat ti! Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell, a dy ferched yn cael eu cario adre.
Explore Eseia 60:4
9
Eseia 60:21
Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, ac yn etifeddu’r tir am byth. Nhw ydy’r blagur dw i wedi’i blannu, gwaith fy llaw sy’n fy anrhydeddu.
Explore Eseia 60:21
10
Eseia 60:18
Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi’n galw dy waliau yn ‘Achubiaeth’ a dy giatiau yn ‘Foliant’.
Explore Eseia 60:18
11
Eseia 60:11
Bydd dy giatiau ar agor drwy’r amser; fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos – er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd a’u brenhinoedd gael ei gario i mewn.
Explore Eseia 60:11
12
Eseia 60:6
Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd, camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw’n cario aur a thus, ac yn canu mawl i’r ARGLWYDD.
Explore Eseia 60:6
13
Eseia 60:10
Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau, a’u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di. Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i’n ddig, dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
Explore Eseia 60:10
14
Eseia 60:15
Yn lle bod wedi dy wrthod, a dy gasáu, a neb yn mynd drwot ti, bydda i’n dy wneud di’n destun balchder am byth – yn llawenydd o un genhedlaeth i’r llall.
Explore Eseia 60:15
15
Eseia 60:16
Byddi’n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di’n gwybod mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy’n dy ollwng di’n rhydd.
Explore Eseia 60:16
Home
Bible
Plans
Videos