1
Eseia 60:1
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
Compare
Explore Eseia 60:1
2
Eseia 60:3
Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad.
Explore Eseia 60:3
3
Eseia 60:2
Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a’i ogoniant a welir arnat.
Explore Eseia 60:2
4
Eseia 60:22
Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.
Explore Eseia 60:22
5
Eseia 60:19
Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti.
Explore Eseia 60:19
6
Eseia 60:20
Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
Explore Eseia 60:20
7
Eseia 60:5
Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.
Explore Eseia 60:5
8
Eseia 60:4
Cyfod dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys.
Explore Eseia 60:4
9
Eseia 60:21
Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder.
Explore Eseia 60:21
10
Eseia 60:18
Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant.
Explore Eseia 60:18
11
Eseia 60:11
Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
Explore Eseia 60:11
12
Eseia 60:6
Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant.
Explore Eseia 60:6
13
Eseia 60:10
A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaethant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
Explore Eseia 60:10
14
Eseia 60:15
Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau.
Explore Eseia 60:15
15
Eseia 60:16
Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
Explore Eseia 60:16
Home
Bible
Plans
Videos