1
Eseia 59:2
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch DUW, a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.
Compare
Explore Eseia 59:2
2
Eseia 59:1
Wele, ni fyrhawyd llaw yr ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed
Explore Eseia 59:1
3
Eseia 59:21
A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
Explore Eseia 59:21
4
Eseia 59:19
Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorllewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith.
Explore Eseia 59:19
5
Eseia 59:20
Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD.
Explore Eseia 59:20
Home
Bible
Plans
Videos