Lyfr y Psalmau 7
7
1Arglwydd Dduw, mae ’m hyder arnat,
Ynot mae f’ ymddiried i;
Achub f’ enaid rhag f’ erlidwŷr,
Achub, Ior, a gwared fi;
2Rhag bod iddo larpio f’ enaid,
Fel y llarpia ’r llew yr oen,
Pryd na byddo neb i’w wared
O’i arteithiau llym a’i boen.
3Ond yn wir, os gwnaethum bechod,
Od oes gamwedd yn fy mryd,
4Ac o thelais ddrwg am heddwch
Neb rhyw gyfaill yn y byd;
(Ië, mi waredais weithiau,
Do, fy nghasddyn penna’n fyw,
Ac e’n elyn llwyr ddïachos
Immi, gwyddost hyn fy Nuw:)
5Yna ’r gelyn helio f’ enaid,
Goddiwedded ef yn awr;
Sathred f’ einioes dan ei wadnau,
Mathred f’ urddas ar y llawr.
6Cyfod, Arglwydd, yn dy ddigter,
Deffro drosof ar fy rhan;
Dadleu ’n erbyn fy ngelynion,
Barna Di o blaid y gwan.
7Felly tyrfa ’r bobl a redant
Am dy nawdd o gylch dy ddôr;
Er eu mwyn, O dychwel Dithau
I’th oruchel orsedd, Ior:
8Ar dy orsedd berni ’r ddaear;
Barna finnau, f’ Arglwydd Dduw,
Yn ol glendid pur fy nghalon
A’m huniondeb perffaith gwiw.
9O darfydded drygau ’r anwir,
Diwedd buan arnynt doed;
Ond addysga Di y cyfiawn,
Yn dy ffyrdd hyfforddia ’i droed:
Ti, Dduw cyfiawn, wyt yn chwilio
Cudd galonnau dynol ryw;
10Ti waredi ’r uniawn galon,
Ti sy nodded im’, fy Nuw.
YR AIL RAN
11Ein Duw a farn o blaid yr iawn,
Fe farna ’r uniawn cyfion;
Ond wrth y rhai ’n annuwiol sydd,
Mae Duw bob dydd yn ddigllon.
12Ac oni thrŷ ’r annuwiol gau,
Fe hoga ’i gleddau dur‐fant;
Ei fwa cryf annelu wnaeth,
Mae’n barod saeth ei sorriant.
13Mae arfau angau yn ei law,
I ladd a drylliaw ’r cablwr;
A’i saethau ar y llinyn tynn,
Yn erbyn yr erlidiwr.
14Gwelwch y dyn annuwiol drwg,
Efe ymddŵg anwiredd;
Yn feichiog ar gamweddau ’r aeth,
Ac esgor wnaeth ar ffalsedd.
15Torrodd, i ddala eraill, dwll,
A dwfn ei bwll y cloddiodd;
Ac yn y fan, yr adyn ffol
Ei hun i’w ganol syrthiodd.
16Ei anwireddau gau bob un,
Ei ben ei hun a glwyfant;
A’i dwyll a’i draha ’n erbyn nef,
Ei goppa ef a ddrylliant.
17Clodforaf fi fy Arglwydd Ner,
Am ei gyfiawnder canaf;
A chanmol wnaf, tra byddaf byw,
Fawr Enw ’r Duw Goruchaf.
Currently Selected:
Lyfr y Psalmau 7: SC1850
ማድመቅ
Share
Copy
ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.