የYouVersion አርማ
የፍለጋ አዶ

Marc 8

8
8. IESU YN AGOR LLYGAID
Bwydo'r Pedair Mil (Marc 8:1-10)
1-10Daeth tyrfa fawr arall ynghyd i wrando ar Iesu a doedd ganddyn nhw ddim i'w fwyta. Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato a dwedodd, “Rydw i'n teimlo trueni am y dyrfa oherwydd maen nhw wedi bod gyda fi am dri diwrnod cyfan, a does dim byd ganddyn nhw i'w fwyta. Os anfonaf nhw adref heb fwyd, byddan nhw'n siwr o lewygu ar y ffordd, gan fod llawer wedi dod o bell.” Ateb y disgyblion oedd, “Sut gall unrhyw un gael digon o fara i fwydo'r rhain i gyd mewn diffeithwch fel hwn?” Gofynnodd Iesu, “Sawl torth sy gyda chi?” Atebon nhw, “Saith.” Yna, gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr a chymerodd y saith torth, ac ar ôl iddo ddiolch torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu ymhlith y bobl. Hefyd roedd ganddyn nhw ychydig o bysgod bach, ac ar ôl i Iesu eu bendithio, dwedodd wrth y disgyblion i'w dosbarthu. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta a chasglwyd saith basgedaid o friwsion. Roedd tua phedair mil o bobl yn y dyrfa. Ar ôl iddyn nhw fwyta, gadawodd Iesu iddyn nhw fynd ac aeth yntau a'i ddisgyblion yn y cwch i ardal Dalmanwtha.
Ceisio Arwydd (Marc 8:11-13)
11-13Daeth y Phariseaid at Iesu a dechrau dadlau gydag e. Roedden nhw am ei brofi, ac am iddo ddangos arwydd o'r nef iddyn nhw. Ochneidiodd Iesu a gofyn, “Pam mae pobl yr oes hon eisiau arwydd? Credwch fi, rydw i'n dweud y gwir wrthych chi, chân nhw ddim arwydd.” Yn y man gadawodd nhw, ac aeth i'r cwch i hwylio i'r ochr draw.
Burum y Phariseaid a Herod (Marc 8:14-21)
14-21Roedd y disgyblion wedi anghofio dod â bara, a dim ond un dorth oedd ganddyn nhw yn y cwch. Cymerodd Iesu'r cyfle i'w rhybuddio a dweud, “Byddwch ofalus, a chadwch rhag burum y Phariseaid a burum Herod.” Roedd y disgyblion yn dal i gwyno ymhlith ei gilydd am nad oedd bara ganddyn nhw. Deallodd Iesu eu gofid a gofynnodd, “Pam ydych chi'n dweud nad oes dim bara gyda chi? Ydych chi'n dal heb ddeall? Ydy'ch meddwl chi wedi'i ddallu? Er bod llygaid gennych chi, dydych chi ddim yn gweld, ac er bod gennych glustiau, dydych chi ddim yn clywed? Pan dorrais i'r pum torth i fwydo'r pum mil, ydych chi'n cofio sawl basgedaid o friwsion gasgloch chi?” Atebon nhw, “Deuddeg.” “A phan dorrais i saith torth ar gyfer y pedair mil, sawl basgedaid o friwsion gasgloch chi?” Atebon nhw, “Saith”. A gofynnodd Iesu, “Ydych chi'n para heb ddeall?”
Iacháu Dyn Dall yn Bethsaida (Marc 8:22-26)
22-26Daeth Iesu a'i ddisgyblion i Bethsaida, a daeth rhai â dyn dall ato, gan erfyn arno gyffwrdd ag ef a'i wella. Cydiodd Iesu yn llaw'r dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Poerodd ar ei lygaid ac yna dododd ei ddwylo arnyn nhw a gofynnodd, “Wyt ti'n gallu gweld rhywbeth?” Edrychodd y dyn i fyny a dwedodd, “Rydw i'n gallu gweld dynion, ac rydw i'n gweld rhywbeth tebyg i goed yn cerdded ar hyd y lle.” Dododd Iesu ei ddwylo ar ei lygaid unwaith eto. Syllodd y dyn yn graff, gwellodd ei olwg a gwelodd bopeth yn glir o'i amgylch. Anfonodd Iesu ef adref a dwedodd wrtho am beidio â mynd i mewn i'r pentref.
Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu (Marc 8:27-30)
27-30Ar y ffordd i bentrefi Cesarea Philipi gofynnodd Iesu i'r disgyblion: “Pwy mae pobl yn dweud ydw i?” Atebon nhw, “Mae rhai'n dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti. Mae eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi.” Gofynnodd Iesu, “Ond be amdanoch chi? Pwy ydych chi'n dweud ydw i?” Atebodd Pedr ar ei union, “Ti ydy'r Meseia.” Yna rhybuddiodd Iesu nhw i beidio â sôn amdano ef wrth neb.
Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad (Marc 8:31-38)
31-38Dechreuodd Iesu ddysgu'r disgyblion bod rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chodi'n fyw ymhen tri diwrnod. Dwedodd hyn yn gwbl agored wrthyn nhw. Dechreuodd Pedr ei geryddu. Trodd Iesu at ei ddisgyblion a cheryddodd Pedr yn llym, “Dos o'm golwg, yr un drwg! Meddwl am bethau dynion rwyt ti, dwyt ti ddim yn ystyried pethau Duw.” Yna galwodd Iesu'r dyrfa a'i ddisgyblion ynghyd a dwedodd, “Os oes un ohonoch am ddod ar fy ôl i, bydd yn rhaid iddo roi ei hunan o'r neilltu, codi ei groes a'm dilyn i. Achos pwy bynnag sy am gadw ei fywyd, sy'n mynd i'w golli; a phwy bynnag sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'r Newyddion Da, sy'n mynd i'w gadw. Faint gwell ydy unrhyw un o ennill yr holl fyd, os ydy e'n colli ei fywyd wrth wneud hynny? Be all unrhyw un ei roi sy mor werthfawr â'i fywyd? Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi a'm geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd gan Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonyn nhw pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'r angylion sanctaidd.”

Currently Selected:

Marc 8: DAW

ማድመቅ

Share

Copy

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ