Marc 7:14-23

Marc 7:14-23 DAW

Galwodd Iesu'r dyrfa ato unwaith yn rhagor a dwedodd, “Gwrandewch er mwyn i chi deall. Does dim sy'n mynd i mewn i berson o'r tu allan yn gallu ei lygru; y pethau sy'n dod allan ohono sy'n gwneud hyn.” Ar ôl iddo ymadael â'r dyrfa, a mynd i mewn i'r tŷ, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi ynglŷn â'r ddameg. Gofynnodd Iesu, “Ydych chi ddim yn deall chwaith? Does na ddim sy'n mynd i mewn i berson o'r tu allan yn gallu ei lygru; am fod y peth hwnnw yn mynd i'r stumog, nid i'r galon, ac yna, allan i'r garthffos.” Yn y modd hwn, cyhoeddodd Iesu fod yr holl fwydydd yn lân. Dwedodd, “Y pethau sy'n dod allan o berson, dyna sy'n ei lygru. O'r tu mewn i berson, o'r galon mae'r cynlluniau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, drygioni, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder a ffolineb yn tarddu, a'r rhain sy'n llygru.”

Funda Marc 7

Video for Marc 7:15

Uhlelo Lwamahhala Lokufunda nokuthandaza okuhlobene ne Marc 7:14-23