Salmau 2:1-6

Salmau 2:1-6 SCN

Paham y mae’r cenhedloedd Yn derfysg oll i gyd, A’r bobloedd yn cynllwynio Yn ofer ledled byd? Brenhinoedd, llywodraethwyr, Yn trefnu byddin gref Yn erbyn Duw, yr Arglwydd, A’i fab eneiniog ef. “Fe ddrylliwn ni eu rhwymau A’u rhaffau,” yw eu cri; Ond chwerthin y mae’r Arglwydd, A’u gwatwar yn eu bri. Llefara yn ei ddicter, A’u llenwi oll â braw: “Gosodais i fy mrenin Ar fynydd Seion draw.”

Funda Salmau 2