A'r dwarnod 'ny, pan wedd‐i'n nosi, gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Licen‐i i ni fynd i ochor arall i llyn, 'no”. So gadon‐nhwy'r crowd lle wên‐nhwy, a fe ethon‐nhwy ag e 'da nhwy, jwst fel wedd e, in i cwch. We cichod erill fan‐'na gida nhwy fyd. Dâth cwthwn o wynt a dachreuodd hi hwthu, a tima'r tonne in bwrw in erbyn i cwch fel i fod e'n llanw â dŵr. On we Iesu'n cisgu ar gwshin in gwt i cwch. Dihunon‐nhwy e a gweu‐'tho fe, “Mishtir, ŷn‐ni'n shinco. Senot‐ti'n becso dim byd?” Dihunodd‐e, rhoi stwr i'r gwynt, a gweu‐'th i dŵr, “Dawel, by' dawel”. Tawelodd i gwynt a âth popeth in dawel i gyd. A gwedodd‐e wrthon nhwy, “Pam we shwt gwmint o ofon arnoch chi? Sdim ffydd da chi to?” We ofon mowr arnon nhwy, a wedon nhwy wrth i gily, “Pwy alle hwn fod, achos ma hyd 'n‐ôd i gwynt a'r môr in grondo arno fe?”