1
Genesis 32:28
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda DUW fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.
對照
Genesis 32:28 探索
2
Genesis 32:26
A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi.
Genesis 32:26 探索
3
Genesis 32:24
A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr.
Genesis 32:24 探索
4
Genesis 32:30
A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais DDUW wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.
Genesis 32:30 探索
5
Genesis 32:25
A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.
Genesis 32:25 探索
6
Genesis 32:27
Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.
Genesis 32:27 探索
7
Genesis 32:29
A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef.
Genesis 32:29 探索
8
Genesis 32:10
Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
Genesis 32:10 探索
9
Genesis 32:32
Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.
Genesis 32:32 探索
10
Genesis 32:9
A dywedodd Jacob, O DDUW fy nhad Abraham, a DUW fy nhad Isaac, O ARGLWYDD, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
Genesis 32:9 探索
11
Genesis 32:11
Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant.
Genesis 32:11 探索
主頁
聖經
計劃
影片