Erfyniaf arnoch chwi, anwyliaid, megys dyeithriaid a phererinion, i ymgadw rhag chwantau cnawdol, y rhai a frwydrant yn erbyn yr enaid; gan gadw eich ymarweddiad yn hardd ymysg y cenedloedd, fel yn gymaint ag yr absenant chwi fel drwgweithredwyr, gan weled eich gweithredoedd da, y gogoneddont Dduw yn nydd eu hymweliad