Y mae’n talu i mi nesau at Dduw,
A gwneuthur yr Arglwydd yn gysgod i mi,
A thraethu Dy holl weithredoedd.
SALM LXXIII
Ofer ydyw dyfalu cyfnod y Salm odidog hon, ac ofer hefyd ydyw chwilio am enw ei hawdur. Y mae ei phroblemau yn un o broblemau mawr pob oes. Yn y rhan gyntaf dengys fel y bu llwyddiant yr annuwiol yn fagl iddo, ac yn yr ail ran dengys fel y dug ei ffydd yn Nuw ef allan o’r fagl honno.
Ar ôl y Gaethglud y dechreuodd y broblem hon boeni meddyliau gorau Israel, fel y gwelir oddi wrth Salmau 37, 39, 94, a Llyfr Job. Gellir dywedyd felly yn bendant mai ar ôl y Gaethglud y cyfansoddwyd hi, a bod y Deml yn sefyll ac heb ei dinistrio, a’r dyfaliad esmwythaf o’r dyddiad ydyw oes Nehemeia. Prin y ceir ffydd yn Nuw yn ddisgleiriach yn unman nag yn y Salm hon.
1—3. Nid yw’n golygu dim newid yn y testun i ddarllen “Iôr uniawn”. Gwrthgilio oedd temtasiwn fawr yr awdur, canys erthygl sicraf ei gyffes ffydd oedd llwyddiant y cyfiawn.
4—9. Nid yw’r cyfieithiad uchod yn golygu dim mwy na rhaniad gwahanol ar lythrennau’r Hebraeg, ac annaturiol iawn yma ydyw unrhyw gyfeiriad at farwolaeth yr annuwiol. Darlleniad llythrennol 5b. ydyw, “Ac ni tharewir hwynt fel dynion eraill”, sef eu taro â heintiau neu glefydau.
“Y mae balchder yn addurn iddynt fel gyddfdorch, ac ymddilladant â gormes” (adn. 6), arwydd o foeth a chyfoeth oedd gwisgo gyddfdorch gan ddyn a gwraig, ac fel yr adnabyddir dyn wrth ei ddillad yr adnabyddir yr annuwiolion hyn wrth eu gormes.
Defnyddir ‘y nefoedd’ yn 9 am Dduw, — melltithio Duw ac enllibio dyn yw hoffwaith y drygionus hyn.
10—14. Anodd cael synnwyr allan o adn. 10 yn y gwreiddiol, “Am hynny y dwg Ef hwynt yn ôl yma, a dyfroedd llawnder a wesgir iddynt”. Os dyma’r darlleniad cywir addewid ydyw am adfer Israel i’w gwlad. Y mae darlleniad arall yn bosibl, “Am hynny try pobl i’w dilyn, ac yfant ddyfroedd llawnder”, try pobl i ddilyn yr annuwiolion llwyddiannus, ac yn eu llwyddiant hwy cânt hwythau lwyddiant. Nid gwadu hollwybodaeth Duw a wneir yn 11, ond gwadu bod Duw yn cymryd unrhyw ddiddordeb yn eu gweithredoedd ac yn sylwi arnynt. Ei brofiad ei hun a edrydd y Salmydd yn 13 a 14, ni ddaeth llwyddiant iddo ef ar lwybrau rhinwedd a ffyddlondeb.
15-20. Perthynas mab â thad oedd perthynas Israel â Duw, ac anfri ar y berthynas hon oedd amau gwerth rhinwedd a ffyddlondeb yn Ei wasanaeth. Nid amau oedd weddus iddo, ond chwilio, costied a gostio mewn poen ac anhunedd, am ystyr i’r peth hwn, ac yn y Cysegr annwyl y deallodd y gyfrinach fawr. Dinistr yw diwedd yr annuwiol, nid ydynt ond peth disylwedd ac annelwig fel breuddwyd, a diddim yng ngolwg Duw eu holl ogoniant bostfawr.
21—28. Cuddiodd ei chwerwedd a’r brath bigog oedd yn ei galon oherwydd llwyddiant yr annuwiol y gyfrinach fawr rhagddo. Bellach yn y cysegr daeth i’r goleuni drachefn, ac nid oes gan daear ddim i’w gyffelybu â hyfrydwch cymundeb Duw, dyma fwyaf nef a daear. Nid oes gyfeiriad yn adn. 24 at fywyd tu hwnt i angau, hyd yn oed pe glynid wrth yr hen gyfieithiad. Digon i’r duwiol wybod ei fod yn llaw Duw, a phrin y dangoswyd gwroldeb mwy erioed na gwroldeb y Salmydd hwn, a ffydd ysblennydd yn wir ydyw ffydd y dyn a ddeil i gofleidio Duw, a dim pelydryn o oleuni ar du hwnt i’r bedd ganddo. Felly y peth da, nid mewn ystyr foesol, ond y peth proffidiol iddo ydyw nesáu at Dduw.
Yn ddiau o ffydd ddewr fel hon yr enynnodd yn fflam gref obaith y Cristion am anfarwoldeb.
1. A ydyw’r annuwiol yn fwy llwyddiannus ei amgylchiadau na’r duwiol? A oes iddo iechyd amgenach (adn. 5)?
2. Pa ragoriaeth sydd gan y duwiol tlawd a helbulus ar y cyfoethog annuwiol?
3. Y mae Rwsia yn wlad ddi-dduw ac yn llwyddo; y mae Cymru yn wlad grefyddol a hyhi yw’r wlad dlotaf yn Ewrop. A ydyw crefydd yn rhwystr i ffyniant gwlad?
4. A yw’n rhesymol credu bod ffydd mor odidog ag eiddo’r Salmydd hwn yn trengi yn yr angau?
5. Ai ymdeimlad ag agosrwydd Duw ydyw gwobr fwyaf crefydd?