Luwc 21:10-19

Luwc 21:10-19 CJW

Efe á chwanegodd, Yna cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. A daiargrynfëydd mawrion á fyddant mewn amryfal fànau, a newynau, a heintiau; a bydd ymddangosiadau dychrynbair ac aruthrodion mawrion yn yr wybr. Eithr o flaen hyn oll, chwi á ddèlir ac á erlynir, ac á draddodir i gynnullfëydd, ac á garcherir, ac á lusgir gèr bron breninoedd a llywiawdwyr, o achos fy enw i; a hyn á ddyry gyfle i’ch tystiolaeth. Rhoddwch eich bryd, gàn hyny, àr na ragfyfyrioch pa amddiffyniad á wneloch; canys mi á roddaf i chwi barabl a doethineb, yr hwn nis gall neb o’ch gwrthwynebwyr ei ddadbrofi na’i wrthsefyll. A chwi á fradychir hyd yn nod gàn rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; a rhai o honoch á roddir i farwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol, o’m hachos i. Er hyny ni chyll blewyn o’ch pen chwi. Cadẅwch eich eneidiau drwy eich dyfalbara.

YouVersion, deneyiminizi kişiselleştirmek için tanımlama bilgileri kullanır. Web sitemizi kullanarak, Gizlilik Politikamızda açıklandığı şekilde çerez kullanımımızı kabul etmiş olursunuz