Logo ng YouVersion
Hanapin ang Icon

Mga Popular na Bersikulo sa Biblia mula sa Salmau 2

Os cynneu ei lid ond ychydig, O’r ffordd fe’ch dyfetha i gyd, Ond hwnw fydd byth wynfydedig A rydd arno’i hyder o hyd. NODIADAU. Cyfansoddwyd y salm hon, dybygid, ar yr achlysur pan gymmerwyd amddiffynfa Seion oddi ar yr Iebusiaid, ac y sefydlodd Dafydd lys ei frenhiniaeth yno. Salm Fessïanaidd drwyddi ydyw. Lleferir ynddi am y Messiah yn ei osodiad yn ei swydd fel Brenin ar Seion (yr eglwys) ei fynydd sanctaidd gan y Tad — y gwrthwynebiadau cryfion a wna brenhinoedd ac awdurdodau y byd hwn i sefydliad ei deyrnas ysbrydol ef ar y ddaear, a’r aflwydd a’r dinystr a dynent arnynt eu hunain drwy hyny. Sicrheir y byddai i’w deyrnas ef ffynu a llwyddo yn gyffredinol yn mysg yr holl genhedloedd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Cynghora Iehofah, yr hwn a osododd y Brenin ar Seion, y brenhinoedd a’r awdurdodau gwrthwynebus i ddysgu y ddoethineb o ymostwng i awdurdod Brenin Seion, a thrwy hyny ragflaenu y dinystr bygythiedig arnynt. Y mae y salm mewn rhan yn gymmhwysiadol i Dafydd, a’i frenhiniaeth dymmhorol ef, yr hon oedd yn gysgod o frenhiniaeth ysbrydol y Messiah, o’i hâd ef. Ond y mae ynddi fwy o lawer o’r gwrthgysgod nag sydd o’r cysgod — ymadroddion nad ydynt yn briodol i Dafydd a’i deyrnas ef, ond yn arbenig felly i Grist a’i deyrnas. Cymmhwysa yr eglwys yn ei gweddi yn Act . ii. 23, ymadroddion y salm hon at amgylchiadau marwolaeth Crist, a sefydliad ei deyrnas efengylaidd yn y byd, drwy bregethiad yr apostolion, a gweinidogaeth yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost. O hyny hyd yn awr, y mae yr ail salm wedi bod yn gordial cysur, ac yn atteg i ffydd yr eglwys, yn sicrwydd o fuddugoliaeth a llwyddiant cyffredinol teyrnas Crist yn y diwedd, er pob gwrthwynebiad.

Mga Libreng Babasahing Gabay at Debosyonal na may kaugnayan sa Salmau 2

Gumagamit ang YouVersion ng cookies para gawing personal ang iyong karanasan. Sa paggamit sa aming website, tinatanggap mo ang aming paggamit ng cookies gaya ng inilarawan sa aming Patakaran sa Pribasya