Mathew 6:25-34

Mathew 6:25-34 DAFIS

“So dw i'n gweu 'thoch chi i beido becso obitu pethe, beth ych chi mynd i fita neu hifed, na beth ichi mynd i wishgo. Senoch bowid chi'n fwy na bwyd? Seno'r corff in fwy na dillad? Drichwch ar adar ir awyr! Senyn nhwy'n hou na'n cwên, na'n rhoi dim mewn sguborie; ond wedyn wêth ma'ch Tad nefol in 'u bwydo nhwy. Senoch chi'n werth llawer mwy na adar? “Pwy onoch chi sy'n galler mistyn 'i fowid wrth fecso? A pam ŷch chi'n becso am ddillad? Meddiliwch am shwt ma lilis gwyllt in tiddu. Senyn nhwy'n gweitho, senyn nhwy'n niddu, ond dw i'n gweu 'thoch chi weno Solomon hyd 'nôd gida'r holl arian we 'dag e wedi'i wishgo in debyg i un o rhein. Os yw Duw in gwishgo'r plans sy'n tiddu in i perci, pethe sy 'ma 'da ni heddi a sy'n câl 'u losgi fory, fel 'na, seno fe'n lot mwy shŵr o'ch gwishgo chi? Pam sy'm mwy o ffydd 'da cgu? “So peidwch becso, a holi'ch unen, 'Beth ŷn ni'n myn i fita' neu 'Beth ŷn ni myn i hifed?' neu 'Beth ŷn ni myn i wishgo?' I pethe 'ma sy'n poeni'r paganied. Ma'ch Tad nefol in gwbod fod ishe'r pethe 'ma i gyd arnoch chi. Whilwch in i lle cinta am Deyrnas Duw a'i gifionder, a bydd i pethe 'ma in câl i rhoi i chi in egstra. “Peidwch 'te â becso am fory, achos bydd fory in becso am 'i unan. Ma digon 'da chi fecso amdano heddi.

อ่าน Mathew 6