Mathew 3:13-17

Mathew 3:13-17 DAFIS

Wedyn dâth Iesu o Galilea at afon Iorddonen fel galle Ioan 'i fididdio finte. On treiodd Ioan 'i stopo fe, a gwedodd e, “Ti ddile in fididdio i. Pam wit ti'n dod ata i?” Atebo Iesu, “Gad i bethe fod fel man nw nawr, achos tima'r ffor ore i ni neud beth ma Duw moyn.” Ar ôl cliwed hyn we Ioan in folon 'i fididdio. A wedi i Iesu gâl 'i fididdio, fel ddâth e lan o'r dŵr; gâs ir awyr 'i agor iddo a welodd e Isbryd Duw in dwâd lawr fel colomen a mynd arno; a wedyn dâth llaish o'r nefodd in gweud, “Tima'n Grwt annwl i, in unig Grwt i, a dw i'n blês 'dag e.”

อ่าน Mathew 3

วิดีโอที่เกี่ยวข้อง