1
Genesis 3:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau.
เปรียบเทียบ
สำรวจ Genesis 3:6
2
Genesis 3:1
Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd’?”
สำรวจ Genesis 3:1
3
Genesis 3:15
Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef.”
สำรวจ Genesis 3:15
4
Genesis 3:16
Dywedodd wrth y wraig: “Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat.”
สำรวจ Genesis 3:16
5
Genesis 3:19
Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.”
สำรวจ Genesis 3:19
6
Genesis 3:17
Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd.
สำรวจ Genesis 3:17
7
Genesis 3:11
Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?”
สำรวจ Genesis 3:11
8
Genesis 3:24
Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.
สำรวจ Genesis 3:24
9
Genesis 3:20
Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.
สำรวจ Genesis 3:20
หน้าหลัก
พระคัมภีร์
แผนการอ่าน
วิดีโอ