Mathew 6:5-8

Mathew 6:5-8 DAFIS

“Pan ych chi'n gweddïo, ddilet ti ddim bod fel i rhagrithwyr, achos man nhwy'n leico sefyll lan a gweddio in i tai cwrdd a mas ar gornel ir hewlydd fel bo dinion in 'u gweld nhwy. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, man nhwy wedi câl 'u gwobor in barod. Ond pan wit ti'n gweddïo, cer i'r rŵm pella ar ben di 'unan, ca'r drws, a gweddïa ar di Dad heb in wbod i neb arall; a bydd di Dad sy'n gwbod beth sneb arall in i wbod in rhoi gwobor iti. “Pan fyddwch chi'n gweddïo peidwch rhaffu geire fel ma'r paganied in neud. Man nhw'n credu bo Duw in mynd i rondo arnyn nhwy achos bo nhw'n iwso lot o eire. Peidwch bod in debyg iddyn nw, achos mach Tad in gwbod beth sy ishe arnoch chi cyn ichi ofyn.

Read Mathew 6