Ioan 11:38-44

Ioan 11:38-44 DAFIS

Dâth Iesu at i twm, a gallech chi weld 'to fod rhwbeth mowr in bod. Wedd i twm mewn ogof gida carreg in i erbyn. Gwedo Ies, “Tinnwch i garreg bant.” Gwedo Martha whâr i dyn we wedi marw wrtho fe, “Mishtir, ma shŵr o fod smel ofnadw nawr; mae e wedi bod in farw pedwar dwarnod.” Gwedo Iesu wrthi hi, “Nes i ddim gweu 'thot ti biset ti'n gweld gogoniant Duw os biset ti'n credu?” So simudon nhwy'r garreg; drichodd Iesu lan a gweud, “Dad, dw i'n jolch i ti bo ti wedi'n gliwed. Dw i'n unan in gwbod bo ti'n cliwed fi trw'r amser; ond ar gownt i crowd sy'n sefyll rownd dw i wedi gweud hyn, fel bo nhwy'n credu taw ti nâth in hala i.” Wedi gweud hyn fe weiddodd e â llaish uchel, “Lasarus, dere mas.” Dâth i dwyn we wedi marw mas, gida bandejis rownd i ben a'i drâd, a llien dros i wmed e. Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Tinwch i bandejis a'r lleinie a gadwch iddo fynd in rhydd.”

చదువండి Ioan 11