O Arglwydd! pwy drig yn dy babell?
Pwy gyda thi yno gaiff fyw?
Pwy esgyn, pwy saif yn ddiysgog
Yn mynydd sancteiddrwydd ein Duw?
Yr hwn mae ei rodiad yn berffaith,
Yr hwn sydd yn gyfiawn ei waith,
Yr hwn ddywed wir yn ei galon,
Heb ffalsedd, na choegedd ychwaith.