Genesis 39:20-21
Genesis 39:20-21 BWM1955C
A meistr Joseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy. Ond yr ARGLWYDD oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.