Genesis 15

15
1 Duw yn cysuro Abram. 2 Abram yn cwyno nad oedd ganddo etifedd. 4 Duw yn addo mab iddo, ac amlhau ei had ef. 6 Abram a gyfiawnheir trwy ffydd. 7 Addewid o wlad Canaan drachefn, a’i gadarnhau trwy arwydd, 12 a gweledigaeth.
1Wedi’r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy #Salm 3:3; 5:12; 84:11; 91:4; 119:114darian, dy #Salm 16:5wobr mawr iawn. 2A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus. 3Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. 4Ac wele air yr Arglwydd ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd. 5Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, #Jer 33:22o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, #Exod 32:13; Deut 10:22; 1 Cron 27:23; Rhuf 4:18; Heb 11:12; Edrych Pen 13:16Felly y bydd dy had di. 6Yntau #Rhuf 4:3, 9, 22; Gal 3:6; Iago 2:23a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe #Salm 106:31a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder. 7Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’th ddygais di allan o #Pen 11:28Ur y Caldeaid, #Salm 105:42i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu. 8Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, #Edrych Pen 24:13, 14; Barn 6:17, 37; 1 Sam 14:9, 10; 2 Bren 20:8trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi? 9Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen. 10Ac #Jer 34:18efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond #Lef 1:17ni holltodd efe yr adar. 11A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u #15:11 gyrrai ymaith.tarfai hwynt. 12A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef. 13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, #Exod 12:40; Act 7:6y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a #Exod 1:11hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd. 14A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny #Exod 12:36; Salm 105:37y deuant allan â chyfoeth mawr. 15A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: #Pen 25:8ti a gleddir mewn henaint teg. 16Ac yn #Exod 12:40y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid. 17A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny. 18Yn y dydd hwnnw #Pen 24:7y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, #Pen 12:7; 13:15; 26:4; Exod 23:31; Num 34:3; Deut 1:7; 11:24; 34:4; Jos 1:4; 1 Bren 4:2; 2 Cron 9:26; Neh 9:8; Esa 27:12I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates: 19Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid. 20Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid, 21Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.

Märk

Dela

Kopiera

None

Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in