Iöb 2:11-13

Iöb 2:11-13 CTB

A chlywodd tri chyfaill Iöb am yr holl ddrwg hwn a ddaethai arno, a daethant bob un o’i fangre ei hun, (sef) Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Shwhiad, a Tsophar y Naamathiad, a chyttunasant i ddyfod i gyd-ofidio âg ef, ac i’w gysuro. A hwy a ddyrchafasant eu llygaid o bell ac nid adnabuont ef; a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant, ac a rwygasant bob un ei fantell, ac a daenasant lwch ar eu pennau tua ’r nefoedd: a hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith, ac nid oedd a ddywedodd wrtho air, canys gwelent mai mawr (oedd) ei ddolur yn odiaeth.