1
Genesis 50:20
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond DUW a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.
Jämför
Utforska Genesis 50:20
2
Genesis 50:19
A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle DUW?
Utforska Genesis 50:19
3
Genesis 50:21
Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
Utforska Genesis 50:21
4
Genesis 50:17
Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
Utforska Genesis 50:17
5
Genesis 50:24
A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a DUW gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
Utforska Genesis 50:24
6
Genesis 50:25
A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, DUW gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.
Utforska Genesis 50:25
7
Genesis 50:26
A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
Utforska Genesis 50:26
Hem
Bibeln
Planer
Videor