1
Genesis 25:23
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
Jämför
Utforska Genesis 25:23
2
Genesis 25:30
A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
Utforska Genesis 25:30
3
Genesis 25:21
Ac Isaac a weddïodd ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r ARGLWYDD a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd.
Utforska Genesis 25:21
4
Genesis 25:32-33
A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi? A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob.
Utforska Genesis 25:32-33
5
Genesis 25:26
Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt.
Utforska Genesis 25:26
6
Genesis 25:28
Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
Utforska Genesis 25:28
Hem
Bibeln
Läsplaner
Videor