A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu’r llau ar ddyn ac ar anifail. Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys DUW yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.